Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2017
Amser:
09.03 -
11.32
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4427
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Simon Thomas AC (Cadeirydd) Neil Hamilton AC Mike Hedges AC Jane Hutt AC David Rees AC Steffan Lewis AC Nick Ramsay AC |
Tystion: |
Anne Meikle, WWF Cymru Annie Smith, RSPB Hayley Richards, Oxfam Cymru Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru Isobel Garner, Swyddfa Archwilio Cymru Kevin Thomas, Swyddfa Archwilio Cymru Steve O'Donoghue, Swyddfa Archwilio Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Ben Harris (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Jane Hutt AC, a oedd yn bresennol fel dirprwy yn lle Eluned Morgan AC, yn dilyn ei dyrchafiad i'r Llywodraeth fel Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Anne Meikle, Cadeirydd y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (WWF Cymru); Annie Smith, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (RSPB Cymru); a Hayley Richards, y Gynghrair Datblygu Cynaliadwy (Oxfam Cymru) ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Cymerodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru; Isobel Garner, Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru; Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol Swyddfa Archwilio Cymru; a Steve O'Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid Swyddfa Archwilio Cymru.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau statudol a ganlyn, gan gytuno i gyflwyno adroddiad arnynt:
· Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Datgelu a Ganiateir) (Cymru) 2017: a
· Rheoliadau Casglu a Rheoli Trethi (Gweinyddu) (Cymru) 2017.
9.1 Trafododd y Pwyllgor oblygiadau ariannol Bil Iechyd Cyhoeddus (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a chytunodd i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer gwaith craffu pellach.
10.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Comisiwn y Cynulliad cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn y prynhawn hwnnw.